Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 2552 (Cy.222)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

29 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Medi 2008

Yn dod i rym

27 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (2); ac ystyr

“Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3).

Diwygiadau i Reoliadau 1986

2.—(1) Diwygir Rheoliadau 1986 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—

“income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance)(4).

(3) Yn rheoliad 13(2) (cymhwystra ar gyfer profion llygad))—

(a) hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (i); a

(b) ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(o) he is in receipt of income-related employment and support allowance; or

(p) he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance..

(4) Yn rheoliad 13(3)—

(a) hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a

(b) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—

and

(d) in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it by regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008(5)..

Diwygiadau i Reoliadau 1997

3.—(1) Diwygir Rheoliadau 1997 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 1(2) (Enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—

“income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance)(6)..

(3) Yn rheoliad 8(3) (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol)—

(a) hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (l); a

(b) ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder y canlynol—

(o) he is in receipt of income-related employment and support allowance; or

(p) he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance..

(4) Yn rheoliad 8(4)—

(a) hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a

(b) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—

and

(d) in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it in regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008(7)..

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”).

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad newydd yn Rheoliad 2(1) i Reoliadau 1986 (dehongli) ac yn diwygio rheoliad 13 (cymhwystra ar gyfer profion golwg) i ddarparu y bydd person sy'n cael lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm (neu aelod o deulu'r person hwnnw) yn gymwys i gael prawf golwg y GIG.

Mae Rheoliad 3 yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli) i Reoliadau 1997 ac yn diwygio rheoliad 8 (cymhwystra — cyflenwi teclynnau optegol) i ddarparu y bydd person sy'n cael lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm (neu aelod o deulu'r person hwnnw) yn gymwys i gael taleb mewn perthynas â theclyn optegol.

(2)

O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw 1989/395, 1992/404, 1995/558, 1996/2320, 1999/693 a 2841 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98) a 3323 (Cy.276) a 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129). Back [2]

(3)

O.S. 1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129). Back [3]

(5)

O.S. 2008/794. Back [5]

(7)

O.S. 2008/794. Back [7]