Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 2438 (Cy.211)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Yn dod i rym

16 Medi 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 203(9) a (10) a pharagraff 9(1) o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 16 Medi 2008.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 16 Medi 2008.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

2.  Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir yr eiddo o'r enw Y Storfa Ganolog, Cyflenwadau Iechyd Cymru. Ysbyty Tywysoges Cymru, Heol Coety, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1UZ a phob hawl a rhwymedigaeth sydd ynghlwm wrth yr eiddo hwnnw o Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.(2)

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo oddi wrth Weinidogion Cymru i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o 16 Medi 2008 ymlaen.

(2)

O.S. 2008/716 (Cy.75). Back [2]