1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4, 6 a 7 isod ac i baragraff 4.4 o Bennod II o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 82/711, rhaid defnyddio, ar gyfer yr amser a'r tymheredd a ddefnyddir pan gynhelir profion ymfudiad, yr amser a'r tymheredd a ddewisir o golofn 2 yn y Tabl yn y Rhan hon ac sy'n cyfateb i'r amodau cyffyrddiad gwaethaf a ragwelir ac a bennir yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw ar gyfer y deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi ac sy'n cyfateb hefyd i unrhyw wybodaeth ar label am y tymheredd defnyddio uchaf.
2. Os bwriedir i'r cyfuniad canlynol fod yn berthnasol i'r defnydd a wneir o'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, sef ei fod yn cael ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd ddwywaith neu fwy ac ar dymheredd a bennir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn y Rhan hon, rhaid i'r prawf ymfudiad gael ei wneud drwy gymhwyso'r holl amodau gwaethaf sy'n gymwys ac a ragwelir ac sy'n briodol i'r sbesimen a brofir, a hynny un ar ôl y llall a chan ddefnyddio'r un gyfran o efelychydd bwyd.
3. At ddibenion y Rhan hon yr amodau cyffyrddiad gwaethaf a ragwelir yw'r rhai y cydnabyddir mai hwy yw'r mwyaf heriol ar sail tystiolaeth wyddonol.
4. Pan fydd prawf yn cael ei gynnal i brofi ymfudiad penodol sylweddau anweddol rhaid i unrhyw brawf sy'n defnyddio efelychydd gael ei gyflawni mewn dull sy'n cydnabod colli ymfudwyr anweddol, sef rhywbeth a all ddigwydd yn yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir.
5. Pan fydd prawf ymfudiad yn cael ei wneud ar ddeunydd neu eitem plastig y bwriedir ei ddefnyddio mewn ffwrn microdon, os dewisir yr amser a'r tymheredd priodol o'r tabl yn y Rhan hon, caniateir defnyddio naill ai ffwrn gonfensiynol neu ffwrn microdon.
6. Os bydd gwneud prawf ymfudiad o dan amodau cyffyrddiad a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir ar gyfer y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i'r prawf ymfudiad gael ei wneud yn yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir ac nad yw newidiadau ffisegol neu newidiadau eraill yn digwydd oddi tanynt.
7. Pan fydd y deunydd neu'r eitem plastig yn cael ei ddefnyddio go iawn, os bwriedir ei ddefnyddio am gyfnodau llai na 15 munud ar unrhyw dymheredd nad yw'n is na 70°C ac nad yw'n fwy na 100°C a bod ei ddefnyddio felly'n cael ei ddangos ar label neu gyfarwyddyd priodol, nid oes rhaid gwneud unrhyw brawf ac eithrio am 2 awr ar dymheredd o 70°C ar y deunydd neu'r eitem plastig oni fwriedir hefyd i'r defnydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio ar gyfer storio ar dymheredd ystafell, ac yn yr achos hwn nid oes rhaid ond gwneud prawf am 10 niwrnod ar dymheredd o 40°C.
8. Darllenir y Tabl yn y Rhan hon ar y cyd â'r nodiadau i'r Tabl.
| Amodau cyffyrddiad o ran y defnydd gwaethaf a ragwelir | Amodau'r prawf |
|---|---|
a
Y cyfnod o amser sy'n cynrychioli'r amodau cyffyrddiad gwaethaf posibl a ragwelir. |
|
b
Dim ond ar gyfer efelychydd D y caniateir defnyddio'r tymheredd hwn. Ar gyfer efelychydd A, B neu C caniateir disodli'r prawf â phrawf ar 100°C neu ar dymheredd adlifo am gyfnod sy'n para pedair gwaith yr amser a ddewisir yn unol â pharagraff 1 o'r Rhan hon. |
|
| Amser cyffyrddiad: | Amser profi: |
| Llai na neu gymaint â 5 munud | a |
| >5 munud ond llai na neu gymaint â 0.5 awr | 0.5 awr |
| >0.5 awr ond llai na neu gymaint ag 1 awr | 1 awr |
| >1 awr ond llai na neu gymaint â 2 awr | 2 awr |
| >2 awr ond llai na neu gymaint â 4 awr | 4 awr |
| >4 awr ond llai na neu gymaint â 24 awr | 24 awr |
| >24 awr | 10 niwrnod |
| Tymheredd cyffyrddiad: | Tymheredd profi: |
| Llai na neu gyfuwch â 5°C | 5°C |
| >5°C ond llai na neu gyfuwch ag 20°C | 20°C |
| >20°C ond llai na neu gyfuwch â 40°C | 40°C |
| >40°C ond llai na neu gyfuwch ag 70°C | 70°C |
| >70°C ond llai na neu gyfuwch â 100°C | 100°C neu dymheredd adlifo |
| >100°C ond llai na neu gyfuwch ag 121°C | 121°C b |
| >121°C ond llai na neu gyfuwch â 130°C | 130°C b |
| >130°C ond llai na 150°C | 150°C b |
| >150°C | 175°C b |
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 4 a 5, rhaid i'r holl gyfryngau profi a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon gael eu defnyddio yn y prawf braster disodli ar gyfer ymfudiad cyflawn neu benodol o dan amodau prawf sy'n cyfateb i'r amodau prawf ar gyfer efelychydd D.
2. Caniateir defnyddio amodau prawf ac eithrio'r rhai a bennir yn y Tabl yn y Rhan hon yn y prawf braster disodli os rhoddir ystyriaeth i'r tybiaethau sydd wrth wraidd yr amodau prawf a bennir yn y Tabl hwnnw ac, os polymer yw'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n cael ei brofi, ystyriaeth i'r profiad presennol o'r math hwnnw o bolymer.
3. Ar gyfer pob prawf—
(a) rhaid defnyddio sbesimen newydd i'w brofi;
(b) rhaid cymhwyso'r rheolau sydd wedi eu rhagnodi ar gyfer efelychydd D yn Rhannau 3, 4 a 5 o'r Atodlen hon i bob cyfrwng prawf;
(c) yn ddarostyngedig i baragraff 4, rhaid penderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad drwy ddewis y gwerth uchaf drwy ddefnyddio'r holl ddulliau profi.
4. Os bydd gwneud prawf ymfudiad yn peri unrhyw newid ffisegol neu newid arall i'r sbesimen a brofir, a hwnnw'n newid nad yw'n digwydd o dan yr amodau defnyddio gwaethaf a ragwelir o ran y deunydd neu'r eitem plastig, rhaid i ganlyniad y prawf hwnnw beidio â chael ei ddefnyddio i gadarnhau cydymffurfedd â'r terfyn ymfudiad.
5. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw amodau prawf a geir yn y Tabl yn y Rhan hon y cydnabyddir yn gyffredinol ar sail tystiolaeth wyddonol nad ydynt yn briodol i'r deunydd neu'r eitem sydd i'w brofi.
6. Rhaid darllen y Tabl yn y Rhan hon gyda'r nodiadau i'r Tabl.
| Amodau'r prawf gydag efelychydd D | Amodau'r prawf gydag isoocten | Amodau'r prawf gydag ethanol 95% | Amodau'r prawf gydag MPPOa |
|---|---|---|---|
a
MPPO = Ocsid polyphenylen addasedig |
|||
b
Defnyddir y cyfryngau profi anweddol hyd at dymheredd uchaf o 60°C. Rhagamod o ddefnyddio'r profion hyn yw y bydd y deunydd neu'r eitem yn gwrthsefyll amodau'r prawf a fyddai fel arall yn cael ei ddefnyddio gydag efelychydd D. Trochwch sbesimen i'w brofi mewn olew olewydd o dan yr amodau priodol. Os newidir y nodweddion ffisegol (e.e. toddi, anffurfio) yna ystyrir bod y deunydd yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio ar y tymheredd hwnnw. Os na newidir y nodweddion ffisegol yna ewch ymlaen gyda'r profion disodli gan ddefnyddio sbesimenau newydd. |
|||
| 10 niwrnod ar 5°C | 0.5 diwrnod ar 5°C | 10 niwrnod ar 5°C | |
| 10 niwrnod ar 20°C | 1 diwrnod ar 20°C | 10 niwrnod ar 20°C | |
| 10 niwrnod ar 40°C | 2 ddiwrnod ar 20°C | 10 niwrnod ar 40°C | |
| 2 awr ar 70°C | 0.5 awr ar 40°C | 2 awr ar 60°C | |
| 0.5 awr ar 100°C | 0.5 awr ar 60°Cb | 2.5 awr ar 60°C | 0.5 awr ar 100°C |
| 1 awr ar 100°C | 1 awr ar 60°Cb | 3 awr ar 60°Cb | 1 awr ar 100°C |
| 2 awr ar 100°C | 1.5 awr ar 60°Cb | 3.5 awr ar 60°Cb | 2 awr ar 100°C |
| 0.5 awr ar 121°C | 1.5 awr ar 60°Cb | 3.5 awr ar 60°Cb | 0.5 awr ar 121°C |
| 1 awr ar 121°C | 2 awr ar 60°Cb | 4 awr ar 60°Cb | 1 awr ar 121°C |
| 2 awr ar 121°C | 2.5 awr ar 60°Cb | 4.5 awr ar 60°Cb | 2 awr ar 121°C |
| 0.5 awr ar 130°C | 2 awr ar 60°Cb | 4 awr ar 60°Cb | 0.5 awr ar 130°C |
| 1 awr ar 130°C | 2.5 awr ar 60°Cb | 4.5 awr ar 60°Cb | 1 awr ar 130°C |
| 2 awr ar 150°C | 3 awr ar 60°Cb | 5 awr ar 60°Cb | 2 awr ar 150°C |
| 2 awr ar 175°C | 4 awr ar 60°Cb | 6 awr ar 60°Cb | 2 awr ar 175°C |