Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 4 Efelychwyr i'w defnyddio mewn perthynas â Bwyd Penodol neu Grŵp Penodol o Fwydydd

1.  At ddibenion yr Atodlen hon mae efelychydd wedi ei bennu mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd pan fo “X” wedi ei osod yn y golofn â'r efelychydd hwnnw'n bennawd iddi gyferbyn â'r bwyd penodol hwnnw neu'r grŵp penodol hwnnw o fwydydd yn y Tabl yn y Rhan hon, a rhaid darllen y Tabl ar y cyd â'r nodiadau ar y tabl a chyda pharagraffau 2 i 5.

2.  At ddibenion y Rhan hon —

(a) y ffigur sy'n dilyn “X” a blaenslaes yn y grŵp o golofnau sy'n dwyn y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” yn y Tabl yn y Rhan hon yw'r ffactor rhydwytho;

(b) mae ffactor rhydwytho wedi ei bennu mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd pan fydd, yn y Tabl—

(i) y bwyd neu'r grŵp o fwydydd wedi ei ddisgrifio yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Disgrifiad o'r bwyd”; a

(ii) “X” wedi ei osod mewn colofn ag efelychydd penodedig yn bennawd iddi, gyferbyn â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd a chyda blaenslaes a ffactor rhydwytho ar ei ôl.

3.  Pan fydd ffactor rhydwytho wedi ei bennu yn y Tabl mewn perthynas â bwyd penodol neu grŵp penodol o fwydydd, rhaid i'r ffactor rhydwytho hwnnw gael ei gymhwyso i ganlyniad unrhyw brawf ymfudiad gan ddefnyddio'r efelychydd sydd wedi ei bennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd drwy rannu canlyniad y prawf â'r ffactor rhydwytho.

4.—(1) Os ceir y llythyren “a” mewn cromfachau ar ôl yr “X”, rhaid defnyddio yn y prawf ymfudiad ddim ond un o'r ddau efelychydd a bennir, hynny yw —

(a) os yw gwerth pH y bwyd yn uwch na 4.5, rhaid defnyddio efelychydd A;

(b) os 4.5 neu lai yw gwerth pH y deunydd bwyd, rhaid defnyddio efelychydd B.

(2) Os ceir y llythyren “b” mewn cromfachau ar ôl yr “X”, rhaid gwneud y prawf a ddynodir gydag ethanol 50% (v/v).

5.  Os yw bwyd wedi ei restru yn y Tabl o dan bennawd penodol ac o dan bennawd cyffredinol, yr efelychydd sy'n berthnasol i'r pennawd penodol yw'r efelychydd sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y prawf ymfudiad.

Rhif Cyfeirnod Disgrifiad o'r bwyd Efelychwyr i'w defnyddio
A B C D
a

Rhaid peidio â defnyddio efelychydd B pan fydd y pH yn fwy na 4.5.

b

Rhaid gwneud y prawf hwn yn achos hylifau neu ddiodydd o gryfder alcoholaidd sy'n fwy na chyfaint o 10% gyda hydoddiannau dyfrllyd o ethanol o gryfder tebyg.

c

Os gellir dangos o dan reoliad 13(2) neu brofi drwy gyfrwng prawf priodol nad oes cyffyrddiad brasterog i fod â'r deunydd neu'r eitem plastig, rhaid peidio â defnyddio efelychydd D.

01 Diodydd
01.01

Diodydd nad ydynt yn rhai alcoholaidd neu ddiodydd alcoholaidd â chryfder alcoholaidd sy'n llai na chyfaint o 5%:

  • — Dŵr, seidrau, suddoedd ffrwythau neu suddoedd llysiau o gryfder arferol neu grynoedig, mystau, neithdarau ffrwythau, lemonêd a dŵr mwynol, syrypau, chwerwau, trwythau, coffi, te, siocled hylif, cwryfau ac eraill

X (a) X (a)
01.02

Diodydd alcoholaidd â chryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5%

  • — Diodydd a geir o dan y pennawd 01.01 ond â chryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5%

  • — Gwinoedd, gwirodydd a liqueurs

Xa Xb
01.03 Amrywiol: alcohol ethyl a'i nodweddion heb eu newid Xa Xa
02 Grawnfwydydd, cynnyrch grawn, crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion
02.01 Startsiau
02.02 Grawnfwydydd heb eu prosesu, pyffion grawnfwydydd, creision grawnfwydydd (gan gynnwys popgorn, creision ŷd a'u tebyg)
02.03 Blawd a phowdr grawnfwydydd
02.04 Macaroni, sbageti a chynhyrchion tebyg
02.05 Crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion, sych:
A Å sylweddau brasterog ar yr wyneb X/5
B Arall
02.06 Crwst, bisgedi, cacennau a nwyddau eraill a werthir gan bobyddion, ffresh
A Å sylweddau brasterog ar yr wyneb X(5)
B Arall X
03 Siocled, siwgr a'u cynhyrchion Cynhyrchion melys
03.01 Siocled, cynhyrchion ac arnynt haenen o siocled, yr hyn a ddefnyddir yn lle siocled, a chynhyrchion ac arnynt haenen o'r hyn a ddefnyddir yn lle siocled X/5
03.02 Cynhyrchion melys:
A ar ffurf solid
— gyda sylweddau brasterog ar yr wyneb X/5
— Arall
B ar ffurf pâst:
— gyda sylweddau brasterog ar yr wyneb X/3
— llaith X
03.03 Siwgr a chynhyrchion siwgr
A Ar ffurf solid
B Mêl a'i debyg X
C Triagl a syrypau siwgr X
04 Ffrwythau, llysiau a'u cynhyrchion
04.01 Ffrwythau cyfan, ffres neu o'r oergell
04.02 Ffrwythau wedi eu prosesu:
A Ffrwythau sych neu ddadhydredig, cyfan neu ar ffurf blawd neu bowdr
B Ffrwythau ar ffurf darnau, piwrî neu bâst X (a) X (a)
C Cyffeithiau ffrwythau (jamiau a chynhyrchion tebyg
— ffrwythau cyfan neu mewn darnau neu ar ffurf blawd neu bowdr, wedi eu cadw mewn cyfrwng hylifol):
— i) Mewn cyfrwng dyfrllyd X (a) X (a)
— ii) Mewn cyfrwng olewog X (a) X (a) X
— iii) Mewn cyfrwng alcoholaidd> cyfaint 5% Xa X
04.03 Cnau (pysgnau, cnau castan, cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau pin ac eraill)
A Heb y plisgyn, sych
B Heb y plisgyn ac wedi eu rhostio X/5c
C Ar ffurf pâst neu hufen X X/3c
04.04 Llysiau cyfan, ffres neu o'r oergell
04.05 Llysiau wedi eu prosesu:
A Llysiau sych neu ddadhydredig yn gyfan neu ar ffurf blawd neu bowdr
B Llysiau, wedi eu torri, ar ffurf piwrî X (a) X (a)
C Llysiau wedi eu cadw:
— i) Mewn cyfrwng dyfrllyd X (a) X (a)
— ii) Mewn cyfrwng olewog X (a) X (a) X
— iii) Mewn cyfrwng alcoholaidd (> 5% cyfaint) Xa X
05 Brasterau ac olewau
05.01 Brasterau ac olewau anifeiliaid a llysiau, p'un a ydynt yn naturiol neu wedi eu trin (gan gynnwys saim coco, lard, a menyn wedi ailymsolido) X
05.02 Margarîn, menyn a brasterau ac olewau eraill wedi eu gwneud o emylsiynau dŵr mewn olew X/2
06 Cynhyrchion anifeiliaid ac wyau
06.01 Pysgod:
A Ffres, o'r oergell, wedi eu halltu, wedi eu mygu X X/3(3)
B Ar ffurf pâst X X/3(3)
06.02 Cramenogion a molwsgiaid (gan gynnwys wystrys, cregyn glas, malwod) nad yw eu cregyn yn eu diogelu'n naturiol X
06.03 Cig pob rhywogaeth sŵolegol (gan gynnwys dofednod a helgig):
A Ffres, o'r oergell, wedi ei halltu, wedi ei fygu X X/4
B Ar ffurf pâst, hufennau X X/4
06.04 Cynhyrchion cig wedi eu prosesu (ham, salami, bacwn ac eraill) X X/4
06.05 Cig a physgod wedi eu cadw neu wedi eu rhan-gadw:
A Mewn cyfrwng dyfrllyd X (a) X (a)
B Mewn cyfrwng olewog X (a) X (a) X
06.06 Wyau heb fod yn eu plisgyn:
Powdr neu sych
B Arall X
06.07 Melynwy:
A Hylif X
B Powdr neu o'r rhewgell
06.08 Gwynwy sych
07 Cynhyrchion llaeth
07.01 Llaeth:
A Cyflawn X(b)
B Wedi ei sychu'n rhannol X(b)
C Sgim neu'n rhannol sgim X(b)
D Sych
07.02 Llaeth wedi ei eplesu megis iogwrt, llaeth enwyn a'r cyfryw gynhyrchion mewn cysylltiad â ffrwythau a chynhyrchion ffrwythau X X(b)
07.03 Hufen a hufen sur X (a) X (b)
07:04 Cawsiau:
A Cyfan, ac arnynt groen anfwytadwy B Pob un arall X (a) X (a) X/3c
B Pob un arall
07:05 Rennet:
A Ar ffurf hylifol neu ludiog X (a) X (a)
B Powdr neu sych
08 Cynhyrchion amrywiol
08.01 Finegr X
08.02 Bwydydd wedi eu ffrio neu eu rhostio:
A Tatws wedi eu ffrio, ffriteri a'u tebyg X/5
B Sy'n dod o anifeiliaid X/4
08.03 Paratoadau ar gyfer cawl, potes ar ffurf hylif, solid neu bowdr (echdyniadau, crynodiadau); paratoadau bwyd cyfansawdd wedi eu homogeneiddio, prydau parod:
Powdr neu sych
— i) Å sylweddau brasterog ar yr wyneb X/5
— ii) Arall
B Hylif neu bâst:
— i) Å sylweddau brasterog ar yr wyneb X (a) X (a) X/3
— ii) Arall X (a) X (a)
08.04 Burumau a chyfryngau codi:
A Ar ffurf pâst X(a) X(a)
B Sych
08.05 Halen
08.06 Sawsiau:
A Heb sylweddau brasterog ar yr wyneb X(a) X(a)
B Mayonnaise, sawsiau sy'n deillio o mayonnaise, hufennau salad ac emylsiynau eraill olew mewn dŵr X(a) X(a) X/3
C Saws sy'n cynnwys olew a dŵr sy'n ffurfio dwy haenen ar wahân X(a) X(a) X
08.07 Mwstard (ac eithrio mwstard mewn powdr o dan bennawd 08.17) X(a) X(a) X/3c
08.08 Brechdanau, bara wedi ei grasu a'u tebyg sy'n cynnwys unrhyw fath o ddeunydd bwyd:
Å sylweddau brasterog ar yr wyneb X/5
B Arall
08.09 Hufen iâ X
08.10 Bwydydd sych:
Å sylweddau brasterog ar yr wyneb X/5
B Arall
08.11 Bwyd wedi ei rewi neu wedi ei rewi'n galed
08.12 Echdyniadau crynodedig o gryfder alcoholaidd sy'n gyfwerth â neu'n fwy na chyfaint o 5% Xa X
08.13 Coco:
A Powdr coco X/5c
B Pâst coco X/3c
08.14 Coffi, p'un ai wedi ei rostio ai peidio, digaffein neu hydawdd, yr hyn a ddefnyddir yn lle coffi, gronynnau neu bowdr
08.15 Echdyniadau coffi hylifol X
08.16 Perlysiau aromatig a pherlysiau eraill:
Camil, hocys, mintys, te, blodau leim ac eraill
08.17 Sbeisiau a sesnin yn eu cyflwr naturiol:
Sinamon, clofs, mwstard mewn powdr, pupur, fanila, saffrwm ac eraill