Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Gweithredu a Gorfodi

Gorfodi

15.  Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —

(a) darpariaethau Rheoliad 1895/2005 a grybwyllir yn rheoliad 12, a

(b) y Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau a Chosbau

16.—(1) Bydd unrhyw berson —

(a) sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3(1), 4(1), 5(1), 12(2) i (5) neu 14(1);

(b) sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith;

(c) sy'n mynd yn groes i reoliad 12(6), 14(3) neu 21(3) neu, heb esgus rhesymol, yn methu mewn modd arall â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn amdano; neu

(ch) sydd wrth honni cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (c), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol,

yn euog o dramgwydd.

(2) Mae person a gollfernir am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a) yn achos tramgwydd o dan baragraff (1)(a) neu (ch)—

(i) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau;

(ii) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na chwe mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

(b) yn achos unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn i gyfnod o garchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na lefel pump ar y raddfa safonol neu'r ddau.

(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(c) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno petai'n gwneud hynny.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd

17.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol —

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol, neu

(b) unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi'n unol â hynny.

(2) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i gael achos wedi ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi'n unol â hynny.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau

18.  Nid oes erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i gael ei gychwyn wedi i dair blynedd ddod i ben er pan gyflawnwyd y tramgwydd neu wedi i flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ei ddarganfod, p'un bynnag yw'r cynharaf.

Tramgwyddau a briodolir i weithredu neu ddiffyg gweithredu gan drydydd parti

19.  Pan fo tramgwyddo gan berson (A) o dan y Rheoliadau hyn i'w briodoli i weithredu neu ddiffyg gweithredu gan ryw berson arall (B), mae person B yn euog o'r tramgwydd a gellir ei gyhuddo a'i gael yn euog o'r tramgwydd p'un a gaiff achos ei ddwyn yn erbyn person A ai peidio.

Amddiffyniad o arfer diwydrwydd dyladwy etc.

20.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r sawl a gyhuddir (“y sawl a gyhuddir”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y tramgwydd yn cael ei gyflawni boed gan y sawl a gyhuddir neu gan berson sydd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir.

(2) Heb ragfarnu cyffredinedd paragraff (1), cymerir bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn—

(a) na pharatôdd y deunydd neu'r eitem plastig neu, yn ôl y digwydd, y deunydd neu'r eitem yr honnir bod y tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef; ac

(b) nas mewnforiodd i'r Deyrnas Unedig,

wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw yn bodloni gofynion paragraff (3) a (4).

(3) Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir —

(a) i'r tramgwydd gael ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir, neu oherwydd iddo ddibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson o'r fath;

(b) naill ai —

(i) i'r sawl a gyhuddir wneud yr holl wiriadau ar y deunydd neu'r eitem plastig neu ar y deunydd neu'r eitem dan sylw ag a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii) ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r sawl a gyhuddir ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd iddo'r deunydd neu'r eitem plastig neu'r deunydd neu'r eitem dan sylw; ac

(c) nad oedd y sawl a gyhuddir yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm i amau ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(4) Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os mai gwerthiant yw'r tramgwydd ac os profir —

(a) i'r tramgwydd gael ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y sawl a gyhuddir, neu oherwydd ei bod yn rhesymol i'r sawl a gyhuddir ddibynnu ar wybodaeth a roddwyd gan berson o'r fath;

(b) nad oedd y gwerthiant yr honnir ei fod yn dramgwydd yn werthiant o dan enw neu farc y sawl a gyhuddir; ac

(c) nad oedd y sawl a gyhuddir yn gwybod ac na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo wybod ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(5) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithredu person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir —

(a) o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b) pan fo'r sawl a gyhuddir wedi ymddangos gerbron y llys eisoes mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i'w ymddangosiad cyntaf,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd sy'n rhoi iddo'r fath wybodaeth ag a oedd yr adeg honno ym meddiant y sawl a gyhuddir yn dynodi neu'n cynorthwyo i ddynodi'r person arall hwnnw.

(6) At ddibenion paragraff (2), mae “paratoi” yn cynnwys gweithgynhyrchu neu fod yn ddarostyngedig i unrhyw fath ar drin neu brosesu.

Amddiffyniad trosiannol o ran gasgedi PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio

21.—(1) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 3 ynghylch gwerthu jar wydr—

(a) sy'n cynnwys

(i) fformiwla babanod neu fformiwla ddilynol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC(18), neu

(ii) bwydydd neu fwydydd babanod wedi'u seilio ar rawn ac wedi'u prosesu ar gyfer babanod a phlant bach fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC(19), a

(b) y selir ei chaead drwy gyfrwng gasged PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio ac iddo'r Rhif PM/Ref 88640 yn Adran A o Atodiad III,

mae'n amddiffyniad i brofi'r materion a nodir ym mharagraff (2).

(2) Y materion i'w profi yw'r canlynol —

(a) yr oedd y gasged PVC a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau perthnasol yng ngholofn 4 yn Eitem 259A yn Rhan 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(20);

(b) llanwyd a seliwyd y jar wydr cyn 19 Tachwedd 2006;

(c) yr oedd dyddiad llenwi neu ddangosiad mewn cod o'r dyddiad hwnnw yn bresennol ar y jar neu ar ei chaead adeg y gwerthiant; ac

(ch) yr oedd y labelu neu'r marcio â'r manylion a grybwyllir yn is-baragraff (c) adeg y gwerthiant yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud â hirbarhad yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor(21).

(3) Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â gofyniad a wnaed gan yr awdurdod gorfodi i ddatgelu'r dyddiad a arwyddoceir gan y dangosiad mewn cod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c).

Darpariaethau trosiannol ac arbedion eraill

22.—(1) Er gwaethaf dirymu Rheoliadau 1998 a wneir gan reoliad 25 o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006 o ran unrhyw ddeunydd neu eitem plastig—

(a) a weithgynhyrchwyd cyn 1 Gorffennaf 1998, yr amddiffyniad yn rheoliad 3(3) o Reoliadau 1998;

(b) a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(15) o Reoliadau 1998;

(c) a roddwyd i gylchredeg yn rhydd yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 30 Tachwedd 2002, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(16) o Reoliadau 1998;

(ch) a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2004, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(a) o Reoliadau 1998;

(d) a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(b) o Reoliadau 1998;

(dd) sy'n cynnwys azodicarbonamid ac a gafodd ei ddwyn i gyffyrddiad â bwyd cyn 2 Awst 2005, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(23) o Reoliadau 1998; neu

(e) a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2006, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(25) o Reoliadau 1998;

rhaid i'r amddiffyniad fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i dramgwyddau o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd a grybwyllir yn rheoliad 21(1), mae'n amddiffyniad i brofi—

(a) bod y weithred sy'n destun y tramgwydd honedig wedi'i chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 19 Tachwedd 2007; a

(b) na fyddai'r mater sy'n destun y tramgwydd honedig yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.

(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio tramgwydd y cyfeirir ato yn rheoliad 21(1), mae profi'r canlynol yn amddiffyniad—

(a) yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhifau Cyfeirnod 30340, 30401, 56800, 76815, 76866, 88640 neu 93760 a geir yn yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(22), bod y rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007(23) yn gymwys; neu

(b) yn achos caeadau y mae ynddynt gasged ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer Rhif Cyfeirnod 36640 (azodicarbonamid) a geir yn Atodiad III neu yn achos deunyddiau neu eitemau plastig nad ydynt yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebau ar gyfer ffthaladau o dan Rifau Cyfeirnod 74560, 74640, 74880, 75100 neu 75105 a geir yn yr Atodiad hwnnw, bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Gorffennaf 2008; neu

(c) mewn unrhyw achos ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b), bod y weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd honedig wedi ei chyflawni mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mai 2009; ac

(ch) na fyddai'r weithred yr honnir ei bod yn dramgwydd wedi bod yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn pe na byddai'r diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC wedi eu gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.

Gweithdrefnau pan fo sampl i gael ei dadansoddi

23.—(1) Pan fo swyddog awdurdodedig wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf a phan yw o'r farn y dylid ei dadansoddi rhaid iddo rannu'r sampl yn dair rhan.

(2) Os yw'r sampl yn cynnwys cynhwysyddion wedi eu selio ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynhwysyddion mewn tair lot, a chaiff pob lot ei drin fel rhan.

(3) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a) os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b) marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhoi un rhan i'r perchennog a'i hysbysu yn ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(ch) cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a

(d) cadw un rhan i'w gyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 24.

Ail ddadansoddiad gan Gemegydd y Llywodraeth

24.—(1) Pan fo sampl wedi cael ei chadw o dan reoliad 23—

(a) a bod bwriad i gychwyn achos neu fod achos wedi ei gychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b) bod yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod fel tystiolaeth,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2) O ran y swyddog awdurdodedig—

(a) caiff o'i wirfodd ei hun; neu

(b) rhaid iddo—

(i) os bydd yr erlynydd (a bod hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) yn gofyn iddo;

(ii) os bydd y llys yn gorchymyn hynny; neu

(iii) (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo,

anfon y rhan sydd wedi ei gadw o'r sampl i Gemegydd y Llywodraeth i gael ei ddadansoddi.

(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonir iddo o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif at y swyddog awdurdodedig yn nodi'n benodol ganlyniadau'r dadansoddiad.

(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniad y dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caiff unrhyw berson wneud y dadansoddiad o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

(5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi copi o dystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd cyn gynted ag y daw i law.

(6) Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i adennill rhai o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth, neu'r cyfan ohonynt, am wneud y swyddogaethau o dan baragraff (3), ac yn niffyg cytundeb gan y diffynnydd i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r gofyniad.

(7) Yn y rheoliad hwn mae “diffynnydd” yn cynnwys darpar ddiffynnydd.

(18)

OJ Rhif L401, 30.12.2006, t.1. Back [18]

(19)

OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16. Back [19]

(20)

O.S. 2006/2982 (Cy.273) Back [20]

(21)

OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/89/EC (OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15). Back [21]

(22)

OJ Rhif L92, 3.4.2007, t.9. Back [22]

(23)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 (OJ Rhif L164 25.06.2008, tt.12-13). Back [23]