Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym—

(h) at ddiben rheoliad 30(a) ar 30 Mehefin 2008, a

(i) at bob diben arall ar 1 Gorffennaf 2008.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ansawdd technegol da” (“good technical quality”) yw ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sydd â'r cyfrifoldeb o dan reoliad 15 dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;

mae i “BADGE” (“BADGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(a) o Reoliad 1895/2005;

mae i “BFDGE” (“BFDGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(b) o Reoliad 1895/2005;

mae “busnes” (“business”) i'w ddehongli yn unol ag adran 1(3) o'r Ddeddf;

mae “bwyd” (“food”) i'w ddehongli yn unol ag adran 16(5) o'r Ddeddf;

ystyr “bwydydd brasterog” (“fatty foods”) yw bwydydd y pennir yng Nghyfarwyddeb 85/572/EEC efelychydd D ar ei gyfer mewn prawf ymfudo;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/711” (“Directive 82/711”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 85/572” (“Directive 85/572”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(6);

ystyr “Cyfarwyddeb 88/388” (“Directive 88/388”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac â deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 89/107” (“Directive 89/107”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(8);

ystyr “y Cyfarwyddebau Purdeb” (“the Purity Directives”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(9), Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd(10) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion(11);

ystyr “deunydd neu eitem” (“material or article” ) yw deunydd neu eitem sy'n dod o fewn y diffiniad o ddeunyddiau ac eitemau yn Erthygl 1(2) o Reoliad 1895/2005;

ystyr “deunydd neu eitem amlhaenog plastig” (“plastic multi-layer material or article”) yw deunydd neu eitem plastig wedi ei gyfansoddi o ddwy haen neu fwy o ddeunyddiau sydd bob un ohonynt yn blastigau'n unig, a'r rheini'n haenau sydd wedi eu rhwymo wrth ei gilydd gan adlynion neu drwy ryw ddull arall;

ystyr “deunydd neu eitem plastig” (“plastic material or article”) yw unrhyw beth a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith y deunyddiau a'r eitemau plastig hynny a rhannau ohonynt y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “EFSA” (“EFSA”) yw Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop;

ystyr “gwahanfur swyddogaethol plastig” (“plastic functional barrier”) yw gwahanfur sy'n cynnwys un haen neu fwy o blastigau sy'n sicrhau bod y deunydd neu'r eitem gorffenedig yn cydymffurfio ag Erthygl 3 o Reoliad 1935/2004 a chyda'r Gyfarwyddeb;

ystyr “yn gallu” (“capable”) yw bod yn gallu yn ôl yr hyn a sefydlir o dan reoliad 13;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu neu fod yn meddiannu peth i'w werthu, a rhaid dehongli “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC” ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(12);

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes;

ystyr “monomer” (“monomer”) yw unrhyw sylwedd a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith monomerau a sylweddau cychwynnol eraill;

mae i “NOGE” (“NOGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(c) o Reoliad 1895/2005;

ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng blwydd a theirblwydd oed;

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd ac ar ddiddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(13);

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd(14);

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(15);

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(16);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, boed yn swyddog i'r awdurdod gorfodi neu beidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “trin bwyd” (“handling of food”) yw defnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn bernir bod cyflenwi unrhyw ddeunydd neu eitem ac eithrio drwy werthiant, wrth gynnal busnes, yn werthiant.

(3) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb, Cyfarwyddeb 82/711, Cyfarwyddeb 85/572 neu Reoliad 1895/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddo yn y Gyfarwyddeb honno neu'r Rheoliad hwnnw.

(4) Ac eithrio yn rheoliad 11(3) ac yn Rhan 5 o Atodlen 3, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw yn y Gyfarwyddeb.

(5) Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i'r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

RHAN 2 Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Cyfyngu ar ddefnyddio, gwerthu neu fewnforio deunyddiau ac eitemau plastig

3.—(1) Ni chaiff neb —

(a) defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes;

(b) gwerthu at ddibenion trin bwyd; neu

(c) mewnforio o unrhyw fan ac eithrio Gwladwriaeth AEE at ddibenion trin bwyd,

ddeunydd neu eitem plastig sy'n methu â bodloni'r safon ofynnol.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn mae deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol—

(a) os cafodd ei weithgynhyrchu gyda monomer gwaharddedig fel a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) neu ychwanegyn gwaharddedig fel a ddisgrifir yn rheoliad 5(2); neu

(b) os nad yw'n bodloni'r safonau gofynnol a osodir yn rheoliad 6, 7, 8, 9, 10 neu 11.

Cyfyngu ar ddefnyddio monomerau wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig

4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fonomer gwaharddedig wrth weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig.

(2) Monomer gwaharddedig yw unrhyw fonomer —

(a) nad yw o ansawdd technegol da;

(b) nad yw wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn yn Adrannau A neu B o Atodiad II; ac

(c) nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer y monomer hwnnw a osodir neu y cyfeirir ato yng ngholofn 4 yn yr Adrannau hynny.

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddefnyddio monomer wrth weithgynhyrchu unrhyw —

(a) caenenni arwyneb a geir o gynhyrchion resinaidd neu o gynhyrchion a bolymereiddwyd mewn ffurf hylifol, bowdrog neu wasgaredig, gan gynnwys farneisiau, lacrau a phaentiau, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(b) resinau epocsi;

(c) adlynion a hyrwyddwyr adlyniad; neu

(ch) inciau argraffu.

(4) Rhaid peidio â chymryd bod paragraff (1) yn gwahardd gweithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig gydag unrhyw sylwedd, os yw'r sylwedd dan sylw yn gymysgedd sy'n dod o fewn paragraff 3(c) (sy'n ymwneud â chymysgeddau o sylweddau a awdurdodir) o Atodiad II a'i fod o ansawdd technegol da.

(5) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â pharagraff (1) oherwydd iddo gael ei weithgynhyrchu gydag unrhyw fonomer (p'un ai o ansawdd technegol da ai peidio) ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) y mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob monomer o'r fath—

(a) yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad sy'n dod o fewn paragraff 3(a) o Atodiad II, neu

(b) yn oligomer neu'n sylwedd macrofoleciwlar naturiol neu synthetig neu'n gymysgedd ohonynt sy'n dod o fewn paragraff 3(b) o'r Atodiad hwnnw,

a'i fod o ansawdd technegol da.

(6) Mae Atodlen 1 yn cael ei heffaith i ychwanegu at y rheoliad hwn.

Cyfyngu ar ddefnyddio ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig

5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn gwaharddedig wrth weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig.

(2) Ychwanegyn gwaharddedig yw —

(a) unrhyw ychwanegyn a ddynodir gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn o Adran A neu B o Atodiad III—

(i) nad yw o ansawdd technegol da, neu

(ii) nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw a osodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4 yn Adran A neu B o'r Atodiad hwnnw; neu

(b) unrhyw ychwanegyn bwyd a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 89/107 neu unrhyw gyflasyn a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 88/388 sy'n ymfudo i fwyd —

(i) mewn swmp y mae iddo swyddogaeth dechnolegol yn y cynnyrch bwyd terfynol, neu

(ii) pan fo'r bwyd o fath ag y mae defnyddio ychwanegyn neu gyflasyn bwyd o'r fath ynddo wedi ei awdurdodi yn y modd hwnnw, mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfynau a osodir yng Nghyfarwyddeb 89/107 neu yng Nghyfarwyddeb 88/388 yn ôl y priodoldeb, neu yn Atodiad III, pa un bynnag sydd isaf.

(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig gydag unrhyw ychwanegyn a ddynodir yn Adran A neu B o Atodiad III nad yw o ansawdd technegol da, mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob ychwanegyn o'r fath yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad.

(4) Mae Atodlen 1 yn cael ei heffaith i ychwanegu at y rheoliad hwn.

Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad cyfansoddion monomerau

6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo terfyn ymfudiad a fynegir mewn mg/kg wedi ei ddangos yng ngholofn 4 yn yr adran berthnasol o Adran neu B o Atodiad II o ran unrhyw fonomer, mae unrhyw ddeunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd o'r monomer hwnnw yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol, ac at ddibenion y paragraff hwn y terfyn priodol yw —

(a) nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 a ryddheir ymhob cilogram o fwyd yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (b); a

(b) y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn—

(i) eitem sy'n gynhwysydd neu sy'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 o fililitrau neu fwy na 10 o litrau, neu

(ii) dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw.

(2) Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir o unrhyw fonomer y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad II yn gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(5) yn gymwys iddo.

(3) O ran deunyddiau neu eitemau plastig sy'n cael eu dwyn neu y bwriedir iddynt gael eu dwyn i gyffyrddiad â bwyd i fabanod a phlant bach rhaid cymhwyso, bob amser mewn mg/kg, y terfynau ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad cyfansoddion ychwanegion

7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo terfyn ymfudiad a fynegir mewn mg/kg wedi ei ddangos yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad III o ran unrhyw ychwanegyn, mae deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchwyd gan gynnwys yr ychwanegyn hwnnw yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol, ac at ddibenion y paragraff hwn y terfyn priodol yw —

(a) nifer y miligramau a ddangosir yng ngholofn 4 a ryddheir ymhob cilogram o fwyd yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig ac eithrio un a bennir yn is-baragraff (b); a

(b) y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cynnwys—

(i) eitem sy'n gynhwysydd neu sy'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 o fililitrau neu fwy na 10 o litrau, neu

(ii) dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw.

(2) Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir gan gynnwys ychwanegyn y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 yn Adran A neu B o Atodiad III yn gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(5) yn gymwys iddo.

(3) O ran deunyddiau neu eitemau plastig sy'n cael eu dwyn neu y bwriedir iddynt gael eu dwyn i gyffyrddiad â bwyd i fabanod a phlant bach rhaid cymhwyso bob amser mewn mg/kg y terfynau ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Y safon ofynnol ar gyfer cynhyrchion a geir drwy eplesu bacteriol

8.  Mae cynnyrch a geir drwy eplesu bacteriol yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os yw —

(a) o ansawdd technegol da;

(b) wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn yn Atodiad IV; ac

(c) yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebion a osodir yng ngholofn 4 o'r Atodiad hwnnw.

Y safonau gofynnol ar gyfer terfynau ymfudiad cyflawn

9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae deunydd neu eitem plastig yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol a bennir ym mharagraff (2) i (4).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig sy'n —

(a) eitem sy'n gynhwysydd neu'n gyffelybadwy â chynhwysydd neu y gellir ei lenwi, ac iddo gynhwysedd o lai na 500 mililitr neu fwy na 10 o litrau, neu

(b) dalen, ffilm neu unrhyw ddeunydd neu eitem arall na ellir ei llenwi neu ei lenwi neu y mae'n anymarferol amcangyfrif ar ei chyfer neu ei gyfer y berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cyffyrddiad â'r arwynebedd hwnnw,

y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 10 o filigramau y decimetr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig.

(3) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem plastig arall, y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 60 o filigramau o'r cyfansoddion yn cael eu rhyddhau fesul cilogram o fwyd neu o efelychyn bwyd.

(4) O ran deunyddiau neu eitemau plastig y bwriedir eu dwyn i gyffyrddiad neu sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant bach, y terfyn priodol bob amser yw'r terfyn a bennir ym mharagraff (3).

(5) At ddibenion y rheoliad hwn ni fernir bod deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol o dan baragraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem ddod i gyffyrddiad ag ef yw bwyd—

(a) sydd wedi ei bennu yn y tabl yn Rhan 4 o Atodlen 3; a

(b) pan na fo “X” wedi ei gosod yn unman yn y grŵp o golofnau dan y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” gyferbyn â'r bwyd hwnnw.

(6) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, mae'r amddiffyniadau sydd ar gael ym mharagraff 10(2) o Atodlen 2 ar gael fel a bennir yn y paragraff hwnnw.

Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad aminau aromatig cynradd

10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae deunydd neu eitem a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio aminau aromatig sylfaenol yn bodloni'r safon ofynnol o dan y rheoliad hwn os nad yw'n gallu trosglwyddo'r cyfryw aminau (a fynegir fel anilin), mewn swmp canfyddadwy, i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gyffyrddiad ag ef.

(2) Mae Rhan B o Atodlen V yn cael ei heffaith at ddibenion rhagnodi'r manylebion, ar gyfer eitemau penodol a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II, Adran A neu B o Atodiad III, neu Atodiad IV, ar gyfer yr eitemau hynny y cyfeirir atynt yng ngholofn 4 o'r Atodiad neu'r Adran o'r Atodiad o dan sylw.

(3) At ddibenion paragraff (1) ystyr swmp canfyddadwy yw o leiaf 0.01 miligram y cilogram o fwyd neu efelychyn bwyd.

(4) Nid yw'r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i aminau aromatig cynradd a restrir yn y Gyfarwyddeb.

Y safon ofynnol mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau amlhaenog plastig

11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae deunydd neu eitem amlhaenog plastig yn bodloni'r safon ofynnol os yw pob haen y mae wedi ei gyfansoddi ohoni'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(2) Nid oes rhaid i haen nad yw mewn cyffyrddiad uniongyrchol â bwyd ac sydd wedi ei gwahanu oddi wrth gyffyrddiad o'r fath gan wahanfur swyddogaethol plastig gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn ar yr amod —

(a) bod y deunydd neu'r eitem gorffenedig yn cydymffurfio â'r terfynau ymfudiad perthnasol yn benodol ac yn gyflawn; a

(b) os nad yw unrhyw sylwedd a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu'r haen yn cael ei gynnwys yn y Gyfarwyddeb neu mewn rhestrau cenedlaethol y cyfeirir atynt yn y Gyfarwyddeb honno, bod y sylwedd hwnnw'n bodloni gofynion paragraffau (3) a (4).

(3) Rhaid i sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) beidio â bod yn perthyn i gategori'r rhai a ddosberthir—

(a) yn sylweddau y profwyd neu yr amheuir eu bod yn sylweddau carsinogenaidd, mwtagenaidd neu wenwynig i atgenhedlu yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 67/548/EEC(17), neu

(b) o dan y meini prawf hunangyfrifoldeb yn sylweddau carsinogenaidd, mwtagenaidd neu wenwynig i atgenhedlu yn unol â rheolau Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb honno.

(4) Rhaid i ymfudiad sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (2)(b) i fwyd neu efelychyn bwyd beidio â bod yn fwy na 0.01 mg/kg, wedi ei fesur a'i fynegi yn unol â'r gofynion a'r manylebau a geir yn Erthygl 7a(3) o'r Gyfarwyddeb.

Darpariaethau yn ymwneud â defnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)

12.—(1) Yn y rheoliad hwn —

(a) mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1895/2005;

(b) mae paragraffau (2) i (5) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (eithriad yn ymwneud â chynwysyddion storio a phiblinellau penodol);

(c) at ddibenion Erthygl 6(4) (gofyniad i ddatgelu dyddiad llenwi) yr awdurdod cymwys yw'r awdurdod a ddynodir yn rheoliad 15.

(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) (darpariaethau trosiannol) a (4) ( gofynion labelu), ni chaiff neb —

(a) gweithgynhyrchu,

(b) defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,

(c) gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu

(ch) mewnforio at ddibenion trin bwyd

unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 neu Erthygl 4 (gwaharddiadau yn ymwneud â BFDGE a NOGE yn eu trefn).

(3) Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2 (rheolaethau ar ymfudiad BADGE o ddeunyddiau ac eitemau).

(4) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), ni chaiff neb—

(a) defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes,

(b) gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu

(c) mewnforio at ddibenion trin bwyd

unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi cael ei weithgynhyrchu mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2.

(5) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3) (darpariaethau trosiannol yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau y daethpwyd â hwy i gyffyrddiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007), nid oes neb i fynd yn groes i na methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (rhwymedigaethau ynghylch darparu datganiad ysgrifenedig wrth farchnata deunyddiau neu eitemau sy'n cynnwys BADGE neu ddeilliadau ohono).

(6) Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â chais a wneir o dan Erthygl 6(4).

Dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi

13.—(1) Rhaid i ddeunydd neu eitem plastig gael ei drin fel pe bai'n gallu trosglwyddo i fwyd y gall ddod i gyffyrddiad ag ef i'r graddau bod gallu o'r fath yn cael ei sefydlu —

(a) mewn unrhyw achos ac eithrio un y mae is-baragraff (b) neu (c) yn gymwys iddo, ac yn ddarostyngedig i Erthygl 8(4) o'r Gyfarwyddeb (y gellir ei chymhwyso pan gydymffurfir â'r amodau a ddatgenir o'i mewn), gan y dulliau gwirio a bennir yn Atodlen 2 (gan gynnwys y goddefiannau dadansoddol y cyfeirir atynt ym mharagraff 12 o'r Atodlen honno) ac yn Atodlen 3;

(b) mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae finyl clorid, fel y'i dynodir yn Adran A o Atodiad II, yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn rheoliad 9(2) o Reoliadau 2007; neu

(c) mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae ffthalad a restrir yn Adran B o Atodiad III â rhif cyfeirnod PM o 74640, 74880, 74560, 75100 neu 75105 yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn Erthygl 8(5) o'r Gyfarwyddeb.

(2) Yn Atodlenni 2 a 3, mae cyfeiriadau at ymfudiad neu ryddhad sylweddau i'w dehongli fel cyfeiriadau at drosglwyddo cyfansoddion i'r bwyd neu i'r efelychwr sy'n cynrychioli'r bwyd y gall y sylwedd ddod i gyffyrddiad ag ef.

(3) Rhaid i ymfudiad penodol cyfansoddyn o ddeunydd neu eitem plastig gael ei benderfynu pan fo hynny'n gymwys yn y dull a bennir yn yr is-baragraff perthnasol o baragraff 8 o Atodiad II.

(4) Rhaid i swmp cyfansoddyn mewn deunydd neu eitem plastig gael ei benderfynu pan fo hynny'n gymwys yn y dull a bennir yn yr is-baragraff o baragraff 8 o Atodiad II sy'n ymwneud â'r term “QM(T)”, “QMA(T)” neu “QMA” yn ôl y digwydd.

Labelu a dogfennaeth

14.—(1) Ar gamau marchnata ac eithrio'r cam manwerthu rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem plastig neu unrhyw sylwedd a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig sicrhau bod datganiad ysgrifenedig yn mynd gyda'r deunydd neu'r eitem plastig neu'r sylwedd a bod y datganiad —

(a) yn cwrdd â gofynion Erthygl 16(1) o Reoliad (EC) Rhif 1935/2004;

(b) yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 4; ac

(c) yn cydymffurfio â pharagraff (2).

(2) Rhaid adolygu datganiad ysgrifenedig a wneir o dan baragraff (1) pan fydd newidiadau sylweddol yn y gwaith o gynhyrchu deunydd neu eitem plastig y dyroddir y datganiad ar ei gyfer yn peri newidiadau yn yr ymfudiad neu pan fydd gwybodaeth wyddonol newydd ar gael.

(3) Rhaid i berson a grybwyllir ym mharagraff (1) beri bod y ddogfennaeth briodol ar gael i'r awdurdod gorfodi pan ofynnir amdani i ddangos bod y deunydd neu'r eitem plastig neu'r sylwedd a fwriedir ar gyfer ei weithgynhyrchu yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.

(4) Rhaid i'r ddogfennaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys amodau a chanlyniadau'r profi, y cyfrifo, dadansoddi arall, a thystiolaeth am ddiogelwch neu resymu sy'n dangos cydymffurfedd.

(5)

OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 97/48/EC (OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10). Back [5]

(6)

OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.14. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/19/EC (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50). Back [6]

(7)

OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61. Back [7]

(8)

OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27. Back [8]

(9)

OJ Rhif L178, 28.7.95, t.1. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/46, OJ Rhif L114, 21.4.2004, t.15. Back [9]

(10)

OJ Rhif L226, 22.9.95, t.1. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47, OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24. Back [10]

(11)

OJ Rhif L339, 30.12.96, t.1. Diwygiwyd hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95, OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71. Back [11]

(12)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Diwygiwyd hon gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, p.35), a 2007/19/EC (a gyhoeddwyd ar ffurf wedi'i diwygio a'i chywiro yn OJ Rhif L97, 12.4.2007, p.50). Back [12]

(13)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4. Back [13]

(14)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28. Back [14]

(15)

O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2001/1236 (Cy.70), O.S. 2002/2834 (Cy.272) O.S. 2003/302 (Cy.44), O.S. 2005/182 (Cy.15) ac O.S. 2005/1649 (Cy.130). Fe'i dirymwyd gan O.S. 2006/2982 (Cy.273). Back [15]

(16)

O.S. 2007/3252 (Cy.287), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1237 (Cy.124). Back [16]

(17)

OJ Rhif 196, 16.8.1967, t.1. Back [17]