Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) ( Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) ( Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006, ISBN 0110913701. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(5)(a) a (6) o Ddeddf Tai 2004[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) (Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai yng Nghymru y mae adran 103 o Ddeddf Tai 2004 ("y Deddf") yn gymwys iddynt[2]. Amgylchiadau rhagnodedig ar gyfer awdurdodi gorchmynion rheoli dros dro y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt 2. —(1) Mae'r amgylchiadau a ganlyn yn amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 103[3] o'r Ddeddf—
(b) y gellir priodoli'r broblem honno, yn gyfangwbl neu'n rhannol, i un sy'n meddiannu'r tŷ; (c) bod landlord y tŷ yn landlord yn y sector breifat; (ch) bod landlord y tŷ yn methu â chymryd camau i wrthsefyll y broblem honno y byddai'n briodol i landlord eu cymryd; a (d) bydd gwneud gorchymyn rheoli dros dro, pan gyfunir ef â mesurau eraill a gymerir yn yr ardal gan yr awdurdod tai lleol, neu gan bersonau eraill ynghyd â'r awdurdod tai lleol, yn arwain at leihad yn y broblem honno neu at ei dileu.
(2) Yn yr erthygl hon nid yw "landlord yn y sector breifat" yn cynnwys landlord cymdeithasol cofrestredig yn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996[4] (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r categori o amgylchiadau y mae angen eu bodloni cyn y gall tribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn gymwys iddo. Gorchymyn a wneir gan awdurdod tai lleol mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth fel y'i diffinnir yn adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf neu mewn perthynas â thŷ y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo yw gorchymyn rheoli dros dro. Mae adran 102 o'r Ddeddf yn disgrifio'r amgylchiadau pan fo raid i'r awdurdod tai lleol wneud gorchymyn rheoli dros dro a'r amgylchiadau pan fo ganddo ddisgresiwn i wneud hynny. Rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi gwneud gorchymyn o'r fath dan ddisgresiwn. Mae adran 103 yn gwneud darpariaeth arbennig ynglŷn â thŷ a feddiennir naill ai o dan denantiaeth neu drwydded unigol nad yw'n denantiaeth neu'n drwydded esempt o dan adran 79(3) neu (4) o'r Ddeddf, neu a feddiennir o dan ddwy neu fwy o denantiaethau neu o drwyddedau mewn perthynas â gwahanol anheddau o'i fewn, heb fod yr un ohonynt yn denantiaeth esempt o dan adran 79(3) neu (4) o'r Ddeddf. O dan adran 103(2) ni chaiff tribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ o'r fath onid yw'r amodau a gynhwysir yn adrannau 103(3) a (4) o'r Ddeddf yn cael eu bodloni. Yr amod yn adran 103(3) yw bod yr amgylchiadau ynglŷn â'r tŷ yn disgyn o fewn categori o amgylchiadau a ragnodwyd. Yr amod yn adran 103(4) yw bod angen gwneud gorchymyn at ddibenion gwarchod iechyd, diogelwch neu les personau sy'n meddiannu'r tŷ neu sy'n ymweld ag ef neu sy'n ymwneud mewn modd arall â gweithgareddau cyfreithlon yng nghyffiniau'r tŷ. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r amgylchiadau at ddibenion yr amod yn adran 103(3). Yr amodau hynny yw bod yr ardal y mae'r tŷ wedi ei leoli ynddi yn profi problem sylweddol a chyson sy'n cael ei hachosi gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac y gellir priodoli'r broblem, yn gyfangwbl neu'n rhannol, i un sy'n meddiannu'r tŷ, a bod y landlord yn landlord yn y sector breifat a'i fod yn methu â chymryd camau y byddai'n briodol i'r landlord eu cymryd i wrthsefyll y broblem. Mae arfarniad rheoliadol llawn o'r effeithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; (ffôn:-02920825111); (e-bost:—HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk). Notes: [1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 103(5) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" ("yr awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261(1).back [2] Gweler adran 103(1) o Ddeddf Tai 2004. Am ystyr "house" ("tŷ") gweler adrannau 103(7) a 99 o'r Ddeddf.back [3] Am ystyr "anti-social behaviour" (ymddygiad gwrth-gymdeithasol) gweler adran 57(5) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091370 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 July 2006 |