Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110911369. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo o dan adran 35(5) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987[1] ac Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002[2], ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ceisiadau a gyflwynir, neu achosion a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau, ynghylch mangreoedd yng Nghymru ar neu ar ôl 31 Mai 2005. Diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 2. Diwygir Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004[3] yn unol â rheoliadau 3 i 8. Cymhwyso'r Rheoliadau 3. Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3), rhodder -
(b) mewn unrhyw achos arall, 31 Mawrth 2004.".
Manylion ceisiadau
(b) ar ôl paragraff (7), mewnosoder y paragraff a ganlyn -
Penderfynu heb wrandawiad
(b) os nad yw'r ceisydd na'r ymatebydd wedi cyflwyno cais i'r tribiwnlys am gael gwrandawiad,
ond nid yw'r paragraff hwn yn lleihau effaith paragraff (3).".
Arolygiadau
(5) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4) -
(b) cael ei roi nid llai na 14 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw.".
Disgrifiadau o'r ceisiadau
8. Ceisiadau o dan adran 168(4) o Ddeddf 2002.".
Manylion ceisiadau
7. - (1) Datganiad sy'n rhoi manylion y toriad honedig o gyfamod neu amod. (2) Copi o'r les sydd o dan sylw.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 ("y Rheoliadau Gweithdrefn"). Mae'r diwygiadau a wnaed gan reoliadau 3, 4(b), 7 ac 8(c) yn ganlyniadol i gychwyn adran 168 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ("Deddf 2002"). Mae Adran 168 o Ddeddf 2002 yn atal landlord rhag cyflwyno hysbysiad i fforffedu les am fod tenant wedi torri cyfamod neu amod yn y les, oni bai bod y tenant yn cyfaddef ei dorri neu ei bod wedi'i benderfynu'n derfynol bod y toriad wedi digwydd. O dan adran 168(4), caiff landlord wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliadau am benderfyniad bod cyfamod neu amod wedi'i dorri. Effaith y diwygiadau a wnaed gan reoliadau 3, 4(b), 7 ac 8(c) yw ychwanegu ceisiadau o dan adran 168(4) o Ddeddf 2002 at y ceisiadau y mae'r Rheoliadau Gweithdrefn yn gymwys iddynt, a'i gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gynnwys gyda'i gais ddatganiad sy'n rhoi manylion am y toriad honedig o gyfamod neu amod a chopi o'r les o dan sylw. Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 4(a) yn cael effaith o ran ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliadau o dan adran 20ZA(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 i hepgor y cyfan neu unrhyw rai o'r gofynion ymgynghori sy'n ymwneud â gwaith a chytundebau y caniateir adennill cyfraniadau ar eu cyfer fel taliadau gwasanaeth. Effaith y diwygiad yw dileu'r gofyniad (a osodwyd gan reoliad 3(3) o'r Rheoliadau Gweithdrefn, a pharagraff 2(3) o Atodlen 2 iddynt) i ddarparu copi o'r les wrth wneud cais o dan adran 20ZA(1). Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 5 yn galluogi tribiwnlys prisio lesddaliadau i benderfynu cais heb wrandawiad llafar pan fo wedi rhoi o leiaf 28 diwrnod o hysbysiad i'r ceisydd a'r ymatebydd ac nad yw'r naill na'r llall ohonynt wedi gofyn am wrandawiad llafar. (Nid yw'r diwygiad hwn yn effeithio ar Reoliad 13(3), sy'n galluogi'r tribiwnlys i benderfynu ar unrhyw bryd cyn bod cais yn cael ei benderfynu y dylai fod yn destun gwrandawiad llafar, ac sy'n caniatáu i'r naill barti neu'r llall ofyn am wrandawiad llafar ar unrhyw bryd cyn bod y cais yn cael ei benderfynu.) Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 6 yn tynnu oddi ar reoliad 17 o'r Rheoliadau Gweithdrefn y gofyniad i hysbysu yn y gwrandawiad lle mae arolygiad i'w gynnal yn ystod neu ar ôl diwedd y gwrandawiad. Mae'r gofyniad i roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad i'r partïon o ddyddiad, amser a lle'r arolygiad yn aros heb ei newid, ond achubwyd ar y cyfle i wneud mân newidiadau drafftio. Mae'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 8(a) a (b) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno copi o'r les gyda cheisiadau penodol sy'n ymwneud â rhyddfreinio neu estyn les, a chyda cheisiadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1987 am amrywio les. Notes: [1] 1987 p.31. Mae adran 35(5) wedi'i diwygio gan adran 163(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ("Deddf 2002"). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 35(5), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. O dan adran 177 o Ddeddf 2002, mae cyfeiriadau at Ddeddf 1987 yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan Ran 2 o Ddeddf 2002.back [2] 2002 p.15. Gweler adran 179(1) i gael y diffiniad o "the appropriate national authority" o ran Cymru.back [3] O.S. 2004/681 (Cy.69).back
ISBN 0 11 091136 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 24 May 2005 |