Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003, ISBN 0110906543. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989[2] a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall,
(b) mewn perthynas â gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yw awdurdod lleol;
(b) gwasanaeth maethu awdurdod lleol;
(ii) yn lleoliad ar gyfer mabwysiadu; a
(b) ac eithrio yn Rhan V o'r Rheoliadau hyn mae'n cynnwys lleoliad sy'n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy'n gweithredu ar ran awdurdod lleol; ac mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei leoli i'w dehongli yn unol â hynny;
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997[6]; neu (c) sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac eithrio yn unol â'r Ddeddf honno;
mae i "ymholiadau amddiffyn plant" yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(4).
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, oni fwriedir fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys -
(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; (c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
ond nid ydynt yn cynnyws caniatáu i berson weithredu fel rhiant maeth, ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi i'w dehongli yn unol â hynny.
(b) datganiad ynghylch y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd i'w darparu gan y gwasanaeth maethu.
(2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan -
(b) unrhyw riant maeth neu ddarpar riant maeth y gwasanaeth maethu; (c) unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth gan y gwasanaeth maethu; ac (ch) rhiant unrhyw blentyn o'r fath.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth maethu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr "arweiniad plant") a rhaid iddo gynnwys -
(b) crynodeb o'r weithdrefn a sefydlwyd;
(ii) yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, o dan adran 26(3) o Ddeddf 1989; a (iii) yn achos asiantaeth faethu sy'n dod o fewn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000, o dan adran 59(4)(b) o Ddeddf 1989[7];
(c) cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; ac
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r arweiniad plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, i bob rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu ac (yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth y plentyn) i bob plentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd hwnnw.
(b) yn achos asiantaeth faethu, unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
(b) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod; ac (c) darparu, os yw'r arweiniad plant wedi'i adolygu, gopi ohono i bob rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu ac (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn), i bob plentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd hwnnw.
Yr asiantaeth faethu - ffitrwydd y darparydd 5. - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth faethu oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny. (2) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth faethu oni bai bod y person -
(b) yn gorff a -
(ii) bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw:
(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth faethu; ac (c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r unigolyn mewn perthynas â phob mater a bennir yn Atodlen 1.
(4) Rhaid i berson peidio â rhedeg asiantaeth faethu -
(b) os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Yr asiantaeth faethu - penodi rheolwr
(b) o'r dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn effeithiol.
Yr asiantaeth faethu - ffitrwydd y rheolwr
(b) o roi sylw i faint yr asiantaeth faethu, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddi -
(ii) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli asiantaeth faethu;
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 1.
Y person cofrestredig - gofynion cyffredinol
(b) i'r angen i ddiogelu a hybu lles y plant sydd wedi'u lleoli gan yr asiantaeth faethu,
redeg neu reoli'r asiantaeth faethu (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(b) yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd;
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod gan yr unigolyn y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu.
(b) o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac (c) o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
Gwasanaeth maethu awdurdod lleol - rheolwr
(b) o'r dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn effeithiol.
(2) Mae rheoliadau 7, 8, a 9 i fod yn gymwys i reolwr gwasanaeth maethu awdurdod lleol, mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw, fel y bônt yn gymwys i reolwr asiantaeth faethu mewn perthynas â'r asiantaeth faethu. Yr asiantaeth faethu annibynnol - y ddyletswydd i sicrhau lles 11. Rhaid i'r person cofrestredig ar gyfer asiantaeth faethu annibynnol[9] sicrhau -
(b) cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy'n effeithio ar blentyn sydd wedi'i leoli neu sydd i'w leoli gyda rhieni maeth bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi -
(ii) i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
(b) sy'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.
(2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b), yn ddarostyngedig i baragraff (3), ddarparu'n benodol ar gyfer -
(b) cyfeirio'n brydlon at yr awdurdod ardal unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd gwasanaeth maethu; (c) hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd gwasanaeth maethu wedi'u cychwyn ac ynghylch canlyniad yr ymholiadau hynny; (ch) cadw cofnodion ysgrifenedig ynghylch unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso, ac ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb iddo; (d) ystyried ym mhob achos y mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth yn dilyn honiad o gam-drin neu esgeuluso; ac (dd) gwneud trefniadau i sicrhau bod modd i bersonau sy'n gweithio at ddibenion gwasanaeth faethu, rhieni maeth a phlant sydd wedi'u lleoli gan y gwasanaeth maethu gael gafael ar wybodaeth a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r canlynol -
(ii) swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;
ynghylch unrhyw bryder am les neu ddiogelwch plentyn.
(3) Nid yw is-baragraffau (a), (c) ac (dd)(i) o baragraff (2) yn gymwys i wasanaeth maethu awdurdod lleol.
(b) na fydd unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth yn destun unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol neu'n afresymol; ac (c) mai dim ond pan yw'n angenrheidiol i atal anaf tebygol i'r plentyn neu bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo y mae dull atal corfforol yn cael ei ddefnyddio.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi a gweithredu gweithdrefn ysgrifenedig sydd i'w dilyn os yw plentyn yn absennol o gartref rhiant maeth heb ganiatâd.
(b) bod modd i bob plentyn gael gafael ar unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, seicolegol a seiciatryddol a chyngor, triniaeth a gwasanaethau nyrsio y mae arno eu hangen; ac (c) bod pob plentyn yn cael unrhyw gefnogaeth, cymhorthion ac offer unigol y mae arno eu hangen o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol a all fod ganddo; ac (ch) bod pob plentyn yn cael cyfarwyddyd, cefnogaeth a chyngor ar faterion iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd sy'n briodol i'w anghenion a'i ddymuniadau.
Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden
(b) mewn perthynas â phlant oedran ysgol sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth, hyrwyddo eu presenoldeb rheoliadd yn yr ysgol a'u cyfranogaeth mewn gweithgareddau ysgol; (c) rhoi i rieni maeth unrhyw wybodaeth a chymorth gan gynnwys offer sy'n angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol y plant sydd wedi'u lleoli gyda hwy.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod unrhyw addysg y mae'n ei darparu ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth ac sy'n blentyn o oedran ysgol gorfodol ond nad yw'n mynd i'r ysgol yn effeithlon ac yn addas i oedran, gallu, a doniau'r plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod arNo.
(b) am y trefniadau ar gyfer rhoi caniatâd ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol y plentyn.
Asiantaethau maethu annibynnol - cwynion a sylwadau
yn yn anffurfiol yn gynnar yn y broses;(b) na fydd gan unrhyw berson sy'n destun cwyn yn cymryd rhan yn y broses o'i hystyried ac eithrio, os yw'r person cofrestredig yn barnu ei bod yn briodol, adeg ei datrys yn anffurfiol yn unig; (c) ymdrin â chwynion am y person cofrestredig; (ch) bod cwynion yn cael eu gwneud gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn; (d) bod trefniadau ar gyfer y weithdrefn i'w hysbysu -
(ii) i'w rhieni; (iii) i bersonau sy'n gweithio at ddibenion yr yr asiantaeth faethu annibynnol.
(3) Os gofynnir amdano, rhaid darparu copi o'r weithdrefn i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).
(b) manylion y weithdrefn (os oes un) sydd wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion iddi mewn perthynas ag asiantaethau maethu annibynnol.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud am unrhyw g
(b) nad oes neb yn talu'r pwyth yn ôl i unrhyw blentyn sy'n gwneud cwyn neu'n cyflwyno sylwadau.
(7) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu datganiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion sydd wedi'u gwneud yn ystod y ddeuddeng mis blaenorol a'r camau y gymerwyd mewn ymateb iddynt.
(b) yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth,
fod nifer digonol o bersonau hyfedr a phrofiadol â chymwysterau addas yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu.
(b) caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio dros wasanaeth maethu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw darparydd y gwasanaeth maethu mewn swydd lle gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant sydd wedi'u lleoli gan y gwasanaeth maethu.
(b) bod gan y person y cymwysterau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; (c) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; ac (ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglyn â'r person ar gael mewn perthynas â phob mater a bennir yn Atodlen 1.
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i wasanaeth maethu nad yw'n cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau.
(b) sy'n aelod o aelwyd rhiant maeth o'r fath.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith, yn achos swydd nad yw'n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol, yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, am nid mwy na phum awr mewn unrhyw wythnos.
(b) roi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau.
(2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol,
(b) yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am digwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth i berson priodol yn sail dros gychwyn achos disgyblu.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw -
(ii) un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol; (iii) un o swyddogion yr awdurdod ardal os yw'n gymwys; (iv) swyddog heddlu; (v) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;
(b) yn achos un o gyflogeion asiantaeth faethu annibynnol, un o swyddogion yr awdurdod cyfrifol;
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth faethu sicrhau bod pob person sy'n cael ei gyflogi ganddo -
(b) yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.
Cofnodion ynglyn â gwasanaethau maethu
(b) bod unrhyw gofnodion sy'n cael eu cadw i ffwrdd o'r tir ac adeiladau yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.
Sefydlu panel maethu 24. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sefydlu o leiaf un panel, a elwir panel maethu, yn unol â'r rheoliad hwn. (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi'r naill neu'r llall o'r canlynol i gadeirio'r panel -
n o staff y darparydd gwasanaeth maethu nad yw'n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd unrhyw berson sy'n cynnal asesiadau o ddarpar rieni maeth; neu(b) unrhyw berson arall nad yw'n un o gyflogeion, aelodau, partneriaid neu gyfarwyddwyr y darparydd gwasanaeth maethu ac y mae ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel maethu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r panel maethu beidio â chynnwys mwy na 10 aelod, gan gynnwys y person a benodir o dan baragraff (2) a rhaid iddo gynnwys -
(b) yn achos asiantaeth faethu -
(ii) os corff yw'r darparydd cofrestredig, o leiaf un o'i gyfarwyddwyr neu'r unigolyn cyfrifol;
(c) yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, o leiaf un aelod etholedig o'r awdurdod lleol; ac
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi aelod o'r panel maethu a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag ("yr is-gadeirydd").
(b) rhaid i bob darparydd gwasanaeth maethu benodi dau berson i'r panel, y mae'r naill yn dod o dan baragraff (3)(a), a'r llall yn dod o dan baragraff (3)(b) neu (c), yn ôl fel y digwydd; (c) drwy gytundeb rhwng y darparwyr gwasanaeth maethu rhaid penodi -
(ii) o leiaf bedwar aelod annibynnol gan gynnwys o leiaf un person sydd, neu sydd wedi bod o fewn y dwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth ar gyfer darparydd gwasanaeth maethu ac eithrio unrhyw un o'r rhai y mae eu panel maethu yn cael ei sefydlu; a (iii) aelod o'r panel a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os bydd y person sy'n cael ei penodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os bydd ei swydd yn wag ("yr is-gadeirydd").
(6) Rhaid i aelod o banel maethu beidio â dal ei swydd am dymor sy'n hwy na thair blynedd, ac ni chaiff ddal ei swydd ar gyfer panel yr un darparydd gwasanaeth maethu am fwy na dau dymor yn olynol.
(b) os yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu; (c) os yw'r person yn ymwneud â rheoli'r darparydd gwasanaeth maethu; (ch) os yw'r person, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yn aelod etholedig o'r awdurdod lleol; neu (d) os yw'r person, yn achos asiantaeth faethu, yn un sy'n perthyn i unrhyw un o gyflogeion y darparydd cofrestredig, neu i unrhyw berson sy'n ymwneud â rheoli'r asiantaeth faethu.
(10) At ddibenion paragraff (9)(d), mae person ("person A") yn perthyn i berson arall ("person B") os yw person A -
(b) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu (c) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person y mae person B yn briod iddo.
Cyfarfodydd y panel maethu
(b) os yw'n argymell cymeradwyo cais, argymell ar ba delerau y dylid rhoi'r gymeradwyaeth; (c) argymell a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio, ac a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio -
(ii) adeg unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparydd gwasanaeth maethu yn unol â rheoliad 29(5);
(ch) ystyried unrhyw achos sy'n cael ei gyfeirio ato o dan reoliad 28(8) neu 29(9).
(2) Rhaid i'r panel maethu hefyd -
(b) goruchwylio'r ffordd y mae asesiadau sy'n cael eu cyflawni gan y darparydd gwasanaeth maethu yn cael eu cynnal; ac (c) rhoi cyngor a chyflwyno argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y bydd y darparydd gwasanaeth maethu yn cyfeirio ato.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "argymell" yw argymell i'r darparydd gwasanaeth maethu.
(b) cyfweld o leiaf ddau berson sy'n cael eu henwi gan y darpar riant maeth i ddarparu geirda personol ar gyfer y darpar riant maeth a pharatoi adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau; (c) yn ddarostyngedig i baragraff (3) ymgynghori â'r awdurdod lleol y mae'r darpar riant maeth yn byw yn ei ardal, a chymryd barn yr awdurdod hwnnw i ystyriaeth; (ch) gan roi sylw i'r materion hyn, ystyried a yw'r darpar riant maeth yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y darpar riant maeth yn addas ar gyfer unrhyw blentyn y gellir rhoi cymeradwyaeth ar ei gyfer; (d) paratoi adroddiad ysgrifenedig ar y person sy'n cynnwys y materion a nodir ym mharagraff (4); ac (dd) cyfeirio'r adroddiad at y panel maethu a hysbysu'r darpar riant maeth yn unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys os awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth maethu a bod y ceisydd yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw.
(b) asesiad y darparydd gwasanaeth maethu o ba mor addas yw'r person i weithredu fel rhiant; (c) cynigion y darparydd gwasanaeth maethu ynghylch telerau ac amodau unrhyw gymeradwyaeth.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio ag ystyried bod person yn addas i weithredu fel rhiant maeth os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy'n 18 oed neu drosodd -
(b) wedi'i rybuddio mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o'r fath yr oedd y person wedi'i gyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.
(6) Caiff y darparydd gwasanaeth maethu ystyried bod person y byddai paragraff (5), ar wahân i'r paragraff hwn, yn gymwys iddo, yn addas i weithredu neu barhau i weithredu, yn ôl fel y digwydd, fel rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn neu blant penodol a enwir os yw'r darparydd gwasanaeth maethu wedi'i fodloni bod angen hynny er lles y plentyn hwnnw neu'r plant hynny, a naill ai -
(b) bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i'r plentyn.
(7) Yn y rheoliad hwn ystyr "tramgwydd penodedig" yw -
(b) tramgwydd a bennir yn Atodlen 4; (c) tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979[12] mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau ynglyn â phornograffi)[13] os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed; (ch) unrhyw dramgwydd arall sy'n cynnwys anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosodiad cyffredin neu guro, ac
mae i'r ymadrodd "tramgwydd yn erbyn plentyn" yr ystyr a roddir i "offence against a child" yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[14] ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn erbyn adrannau 6, 12 neu 13 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rhywiol â merch 13 i 16 oed, sodomiaeth, neu anwedduster rhwng dynion)[15] mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd.
(b) bod ei banel maethu wedi ystyried y cais.
(3) Wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo person fel rhiant maeth a phenderfynu ynghylch telerau unrhyw gymeradwyaeth, rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu gymryd i ystyriaeth argymhelliad ei banel maethu.
(b) gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 5 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "cytundeb gofal maeth").
(6) Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo -
(b) gwahodd y person i gyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.
(7) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.
(b) gwneud ei benderfyniad, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad newydd sy'n cael ei wneud gan y panel maethu.
(9) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) neu (8)(b), yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu'r darpar riant maeth yn ysgrifenedig, ac -
(b) os yw'r penderfyniad yn benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r person, darparu rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.
Adolygu a therfynu cymeradwyaeth
(b) ceisio barn y canlynol, a'i chymryd i ystyriaeth -
(ii) (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn) unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth; ac (iii) unrhyw awdurdod cyfrifol sydd wedi lleoli plentyn gyda'r rhiant maeth o fewn y flwyddyn flaenorol.
(4) Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi adroddiad ysgrifenedig, sy'n nodi -
(b) a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol.
(5) Adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gyfeirio ei adroddiad at y panel maethu iddynt ei ystyried, a gall wneud hynny adeg unrhyw adolygiad dilynol.
(b) gwahodd y rhiant maeth i gyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig iddo o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.
(8) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.
(b) gwneud ei benderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad a wnaed gan y panel maethu.
(10) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) neu (9)(b), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth yn pennu yn ôl fel y digwydd -
(b) bod y gymeradwyaeth wedi'i therfynu o ddyddiad penodedig, a'r rhesymau dros ei therfynu; neu (c) telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a'r rhesymau dros y diwygiad.
(11) Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd nad yw'r rhiant maeth yn dymuno gweithredu bellach fel rhiant maeth ac wedi hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth yn cael ei therfynu 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law.
(b) y cytundeb gofal maeth; (c) unrhyw adroddiad ar adolygiad o gymeradwyaeth a baratowyd o dan reoliad 29(4); (ch) unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 29(10); (d) unrhyw gytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(1)(a); (dd) yr adroddiad a baratowyd o dan reoliad 27(2)(d) ac unrhyw adroddiadau eraill a gyflwynwyd i'r panel maethu; ac (e) unrhyw argymhellion a wnaed gan y panel maethu.
(3) Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd, yw -
(b) yr wybodaeth a sicrhawyd gan y darparydd gwasanaeth maethu mewn perthynas ag asesu a chymeradwyo'r rhiant maeth ac mewn perthynas ag unrhyw adolygiad neu derfyniad o'r gymeradwyaeth.
(4) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â'r person hwnnw -
(b) cofnod ynglyn â'r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi'i leoli, dyddiadau dechrau a therfynu'r lleoliad, ac amgylchiadau'r terfyniad; ac (c) yr wybodaeth a sicrhawyd mewn perthynas â'r ymholiadau a wnaed o dan reoliad 38(2).
(5) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw'n ei gymeradwyo fel rhiant maeth, neu sy'n tynnu ei gais yn ôl cyn iddo gael ei gymeradwyo, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys mewn perthynas â'r person -
(b) unrhyw adroddiad a gyflwynwyd i'r panel maethu ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan y panel maethu; ac (c) unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 28.
Cofrestr o rieni maeth
(b) dyddiad cymeradwyo'r rhiant maeth a dyddiad pob adolygiad o'i gymeradwyaeth; ac (c) telerau cyfredol y gymeradwyaeth.
(3) Rhaid i bob awdurdod lleol gofnodi yn ei gofrestr -
(b) dyddiad pob cytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(2)(b); ac (c) telerau unrhyw gytundeb o'r fath sydd mewn grym am y tro.
Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion
(b) unrhyw orchymyn llys sy'n caniatáu i bobl gael gweld cofnodion o'r fath.
Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol 33. Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai ei fod wedi'i fodloni -
(b) mai'r lleoliad mwyaf addas yw lleoliad gyda'r rhiant maeth penodol o ystyried yr holl amgylchiadau.
Gwneud lleoliadau
(ii) gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, cyhyd â bod yr amodau a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu bodloni;
(b) os yw telerau'r gymeradwyaeth yn gyson â'r lleoliad arfaethedig; ac
(2) Mae'r amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a)(ii) fel a ganlyn -
(b) bod unrhyw awdurdod cyfrifol arall a chanddo blentyn sydd eisoes wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth, yn cydsynio â'r lleoliad; (c) os yw'n gymwys, bod yna ymgynghori â'r awdurdod ardal, bod sylwadau'r awdurdod yn cael eu hystyried, a bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu os yw'r lleoliad yn cael ei wneud; ac (ch) os yw'r rhiant maeth wedi'i gymeradwyo gan asiantaeth faethu annibynnol, bod gofynion rheoliad 40 wedi'u bodloni.
(3) Cyn gwneud lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol wneud cytundeb ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel y "cytundeb lleoliad maeth" gyda'r rhiant maeth yngl
(b) os gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan y plentyn neu'r rhiant maeth; ac (c) beth bynnag (yn ddarostyngedig i reoliad 37)
(ii) ar ôl hynny, heb fod cyfnodau o fwy na thri mis rhwng yr ymweliadau.
(2) Yn achos lleoliad di-oed o dan reoliad 38, rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod y plentyn yn cael ymweliad o leiaf unwaith bob wythnos yn ystod y lleoliad.
n a bod ganddo ddealltwriaeth i wneud hynny, yn gwrthod; a(b) yn paratoi adroddiad ysgrifenedig am yr ymweliad.
Terfynu lleoliadau
(b) nad yw hyd cyfan y lleoliadau i fod yn hwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(2) Gellir trin cyfres o leoliadau byr-dymor y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt fel un lleoliad at dibenion y Rheoliadau hyn, ond gyda'r addasiadau a nodir ym mharagraffau (3) a (4).
(b) ar ôl hynny, os yw'r gyfres o leoliadau yn parhau, heb fod cyfnodau o fwy na chwe mis rhyngddynt neu, os yw'r cyfnod rhwng y lleoliadau yn fwy na chwe mis, yn ystod y lleoliad nesaf.
(4) Mae rheoliad 41 i fod yn gymwys fel petai'n ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer ymweliadau â'r plentyn ar ddiwrnod lleoli, o fewn y saith diwrnod lleoli cyntaf o gyfres o leoliadau byr-dymor.
(b) bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni ynghylch darpariaethau rheoliad 33(a).
(2) Os yw awdurdod lleol wedi'i fodloni bod angen lleoli plentyn yn ddi-oed, caiff leoli'r plentyn gyda pherson nad yw'n rhiant maeth ar ôl cyfweld y person, archwilio'r llety a chael gwybodaeth am bersonau eraill sy'n byw ar aelwyd y person, am gyfnod heb fod yn hwy na chwe wythnos, ar yr amodau -
(b) bod y person wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r awdurdod lleol i gyflawni'r dyletswyddau a bennir ym mharagraff (3); ac (c) bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni yngl n â darpariaethau rheoliad 33(a).
(3) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(b) yw -
(b) caniatáu i unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol neu (os yw'n gymwys) yr awdurdod ardal, i ymweld â'r plentyn ar unrhyw bryd; (c) os yw rheoliad 36 yn gymwys, caniatáu i'r plentyn gael ei symud ar unrhyw bryd gan yr awdurdod lleol neu (os yw'n gymwys) yr awdurdod ardal; (ch) sicrhau bod unrhyw wybodaeth y gall y person hwnnw gael gafael arni sy'n ymwneud â'r plentyn, neu â theulu'r plentyn neu unrhyw berson arall, sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw yn gyfrinachol mewn cysylltiad â'r lleoliad yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac nad yw'n cael ei datgelu ac eithrio i'r awdurdod lleol, neu gyda chytundeb yr awdurdod lleol; a (d) caniatáu cysylltiadau â'r plentyn yn unol â thelerau unrhyw orchymyn llys yngl n â chysylltiadau neu unrhyw drefniadau sydd wedi'u gwneud gan yr awdurdod lleol neu y mae'r awdurdod hwnnw wedi cytuno arnynt.
(4) Os yw awdurdod lleol yn lleoli plentyn o dan y rheoliad hwn y tu allan i'w ardal rhaid iddo hysbysu'r awdurdod ardal.
(b) y gwasanaethau sydd i'w darparu i'r awdurdod lleol gan y person cofrestredig; (c) y trefniadau i'r awdurdod lleol ddethol rhieni maeth penodol o blith y rhai sydd wedi'u cymeradwyo gan y person cofrestredig; (ch) y gofyniad i'r person cofrestredig gyflwyno adroddiadau i'r awdurdod lleol ar unrhyw leoliad yn ôl yr hyn y gall yr awdurdod ofyn amdano, ac yn benodol yn dilyn unrhyw ymweliad a wnaed o dan reoliad 35; a (d) y trefniadau ar gyfer terfynu'r cytundeb.
(5) Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol rhaid i'r awdurdod lleol wneud cytundeb gyda'r person cofrestredig mewn perthynas â'r plentyn hwnnw sy'n nodi -
(b) manylion unrhyw wasanaethau y mae'r plentyn i'w cael; (c) telerau (gan gynnwys telerau ynglyn â thalu) y cytundeb lleoliad maeth arfaethedig; (ch) y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion am y plentyn, ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad; (d) gofyniad i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod lleol yn ddi-oed os bydd unrhyw bryderon ynglyn â'r lleoliad; ac (dd) a ddylai unrhyw blant eraill gael eu lleoli gyda'r rhiant maeth ac ar ba sail.
(6) Mae rhiant maeth y mae plentyn i'w leoli gydag ef yn unol â threfniadau a wneir o dan y rheoliad hwn, i'w drin, mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw, at ddibenion paragraff 12(d) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 fel rhiant maeth awdurdod lleol. Ymweliadau awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gan gyrff gwirfoddol 41. - (1) Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod person sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol i ymweld â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth o fewn eu hardal gan gorff gwirfoddol fel a ganlyn -
(b) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan y corff gwirfoddol a wnaeth y lleoliad am ymweliad â phlentyn; (c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os yw'n cael ei hysbysu ei bod yn bosibl nad yw lles y plentyn yn cael ei ddiogelu na'i hybu; ac (ch) bob chwe mis ar y mwyaf os yw'r awdurdod lleol wedi'i fodloni, yn dilyn ymweliad â phlentyn o dan y rheoliad hwn bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu.
(2) Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod person sy'n ymweld yn unol â pharagraff (1) -
(b) yn cymryd camau i ddarganfod a yw'r corff gwirfoddol a leolodd y plentyn wedi gwneud trefniadau addas i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn a'r rhai o dan adran 61 o Ddeddf 1989.
(3) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddo ynghylch y corff gwirfoddol. Adolygu ansawdd y gofal 42. - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer -
(b) gwella ansawdd y gofal maeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth faethu.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad yngl
(b) darparu copi o'r cyfrifon i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os yw'n gofyn amdanynt.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd arno ei hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth faethu, gan gynnwys -
(b) tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparwyr cofrestredig; (c) gwybodaeth am adnoddau ariannol yr asiantaeth faethu a'i hadnoddau ariannol; (ch) os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o gwmnïau cysylltiedig y darparydd cofrestredig; a (d) tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r atebolrwydd a allai gael ei achosi gan y darparydd mewn perthynas â'r asiantaeth faethu ynghylch marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall, neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.
(b) y rheswm dros yr absenoldeb hwnnw; (c) y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb hwnnw; (ch) enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb; a (d) y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.
(3) Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi iddo ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(b) bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth faethu; (c) os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod yr unigolyn yn newid ei enw; (ch) os corff yw'r darparydd cofrestredig -
(ii) bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff; (iii) bod unrhyw newid yn mynd i ddigwydd o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(d) os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi ar ei gyfer neu fod cyfamod neu drefniant yn cael ei wneud gyda chredydwyr; neu
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed ynghylch marwolaeth y rheolwr cofrestredig.
(b) penodi rheolwr i gymryd gofal llawn-amser o ddydd i ddydd o'r asiantaeth faethu mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac (c) o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fwriadau'r person ynghylch gweithredu'r asiantaeth faethu yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir -
(b) yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu; neu (c) yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu.
Tramgwyddau Cofrestru 50. - (1) Mae "Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002"[17] yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd "SCHEDULES" ac yn rheoliadau 2(2), 4(2), 4(3), 4(6), 9(b), 9(d), 9(e), 9(h), 10, 12(3)(c), 13, 14, 15(4)(f) ac ym mharagraffau 1(e)(ii), 3(c), 3(d), 4, 5, 6, 7, 8, 11(a), 12(a), 13, 14 o Atodlen 1 ac ym mharagraffau 3(1), 7, 9, 10(1)(a)(i), 10(2)(a), 10(2)(b), 10(2)(c) o Atodlen 2 ac ym mharagraffau 3, 6(b), 7, 11 o Atodlen 3,
(3) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniadau o "registered manager", "registered person", "registered provider", "representative", "responsible individual", yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or agency";
(b) a local authority fostering service;";
(ii) in any other case, any office of the National Assembly.";
(c) yn y diffiniad o "statement of purpose", ar ôl is-adran (d) mewnosodwch -
Ffioedd
(c) yn y diffiniad o "service user" yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or by an agency".
(4) Yn rheoliadau 2(2) a 4(3) yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or agency".
12. - (1) The annual fee in respect of a fostering agency is £ 1,000. (2) The annual fee in respect of a local authority fostering service is £ 1,000. (3) The annual fee in respect of a fostering agency or a local authority fostering service is to be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (4)("the first date"), and thereafter on the anniversary of the first date. (4) The specified date is -
(b) in the case of a local authority fostering service -
(ii) in any other case, on the date on which such functions are first discharged."
Darpariaethau trosiannol
(b) os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod -
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ac sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.
(b) os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod -
(ii) os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.
(5) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (4) oni bai -
(ii) mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a
(b) ei fod yn gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig yngl
(6) Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 2 o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion, Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau Diwygio) 2002 ac i is-baragraffau (5) a (6) o baragraff 5 o Atodlen 1 iddi (cais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynad hedd)[21].
(b) rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Lleoliadau Byr-dymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995[23] (c) rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn Rhag Tramgwyddwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 1997[24]) (ch) rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn Rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001[25] i'r graddau y mae'n diwygio Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991.
1. Prawf pendant o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai -
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, gan gynnwys, i'r graddau y caniateir hynny o dan Ddeddf yr Heddlu 1997, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno[29].
3.
Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un. 1. Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos mewn perthynas â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth -
(b) enw a chyfeiriad y rhiant maeth; (c) y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben; (ch) cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad; (d) cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael â'r lleoliad; (dd) awdurdod cyfrifol y plentyn (os nad y darparydd gwasanaeth maethu ydyw); (e) y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu odani ar gyfer y plentyn.
2.
Cofnod o'r holl bersonau sy'n gweithio ar gyfer y darparydd gwasanaeth maethu, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y materion canlynol mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn rheoliad 20(1) -
(b) rhyw; (c) dyddiad geni; (ch) cyfeiriad cartref; (d) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant a phrofiad o'r gwaith hwnnw; (dd) a yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu fel arall o dan gontract, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun arall heblaw'r darparydd gwasanaeth maethu; (e) a yw'r person yn gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser, ac, os yn rhan amser, nifer cyfartalog yr oriau y mae'n eu gweithio bob wythnos.
3.
Cofnod o bob damwain sy'n digwydd i blant yn ystod eu lleoliad gyda rhieni maeth. 1. Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni'r darpar riant maeth. 2. Manylion iechyd y person hwnnw (wedi'u hategu gan adroddiad meddygol), ei bersonoliaeth, ei statws priodasol a manylion priodas gyfredol neu berthynas debyg y person hwnnw ac unrhyw briodas flaenorol neu berthynas debyg. 3. Manylion unrhyw aelodau eraill o aelwyd y person hwnnw sy'n oedolion. 4. Manylion y plant yn nheulu'r person hwnnw, p'un ai ydynt yn aelodau o'i aelwyd neu beidio, ac unrhyw blant eraill yn ei aelwyd. 5. Manylion am lety'r person hwnnw. 6. Argyhoeddiad crefyddol y person hwnnw, i ba raddau y mae'n dilyn ei grefydd a'i allu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad crefyddol penodol. 7. Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y person hwnnw a'i allu i ofalu am blentyn o unrhyw darddiad penodol neu unrhyw gefndir diwylliannol neu ieithyddol. 8. Swydd neu alwedigaeth y person hwnnw yn y gorffennol a'r presennol, ei safon byw a gweithgareddau a diddordebau hamdden. 9. Profiad blaenorol y person hwnnw (os o gwbl) o ofalu am ei blant ei hun a phlant eraill. 10. Medrau, hyfedredd a photensial y person hwnnw sy'n berthnasol i'w allu i ofalu'n effeithiol am blentyn sydd wedi'i leoli gydag ef. 11. Canlyniad unrhyw gais a wnaed gan y person hwnnw neu unrhyw aelod arall o aelwyd y person hwnnw am faethu neu fabwysiadu plant neu am gofrestru plentyn ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd[30], gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol sy'n ymwneud â'r person neu ag unrhyw aelod arall o aelwyd y person hwnnw neu fanylion penderfyniad blaenorol i wrthod cymeradwyaeth o'r fath. 12. Enw a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu tystlythyron personol ar gyfer y darpar riant maeth. 13. Mewn perthynas â'r darpar riant maeth a phob aelod o'r aelwyd sydd yn 18 neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997[31], gan gynnwys y materion a bennir yn adran 115(6A) o'r Ddeddf honNo. Tramgwyddau yn yr Alban 1. Tramgwydd trais rhywiol. 2. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995[32] ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn erbyn adran 5 o Ddeddf Cyfraith Troseddau (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyfathrach â merch o dan 16 oed)[33], tramgwydd anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth. 3. Tramgwydd plagiwm (dwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd). 4. Adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (ffotograffau anweddus o blant)[34]). 5. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd)[35]. Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon 6. Tramgwydd trais rhywiol. 7. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968[36]) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Troseddau 1885 (cael adnybyddiaeth gnawdol anghyfreithlon o ferch o dan 17 oed ac anwedduster dybryd rhwng gwrywod)[37], neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau yn erbyn y Person 1861 (sodomiaeth). 8. Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)[38]. 9. Tramgwydd yn groes i Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol)[39]. 10. Tramgwydd o dan Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)[40]. 11. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd). 1. Telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth. 2. Faint o gymorth a hyfforddiant sydd i'w rhoi i'r rhiant maeth. 3. Y weithdrefn ar gyfer adolygu cymeradwyaeth rhiant maeth. 4. Y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli plant a'r materion sydd i'w cynnwys mewn unrhyw gytundeb lleoliad maeth. 5. Y trefniadau ar gyfer bodloni unrhyw atebolrwyddau cyfreithiol y rhiant maeth sy'n codi oherwydd lleoliad. 6. Y weithdrefn sydd ar gael i rieni maeth gyflwyno sylwadau. 7. Rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maeth ar unwaith, gyda manylion llawn -
(b) unrhyw newid yn y personau sy'n ffurfio aelwyd y rhiant maeth; (c) unrhyw newid arall yn amgylchiadau personol y rhiant maeth ac unrhyw ddigwyddiad arall sy'n effeithio naill ai ar ei allu i ofalu am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli neu addasrwydd aelwyd y rhiant maeth; ac (ch) unrhyw gais am fabwysiadu plant, neu am gael cofrestriad ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd.
8.
Peidio â chosbi'n gorfforol unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth. |