Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001 © Crown Copyright 2001 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001, ISBN 0 11090305 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [1]: Enwi a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2001. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
Diwrnod penodedig Y Tabl Darpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Gorffennaf 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu diwrnod i rai o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") ddod i rym. Mae'n dwyn i rym, ar 1 Gorffennaf , bob p er i wneud is-ddeddfwriaeth, ac i baratoi safonau cenedlaethol gofynnol a safonau eraill, sef pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad gan y Rhannau canlynol o'r Ddeddf (a'r Atodlenni sy'n gysylltiedig â'r Rhannau hynny): Rhan I (Rhagarweiniol); Rhan II (Sefydliadau ac Asiantaethau); Rhan III (Gwasanaethau Awdurdodau Lleol); a Rhan VI (Gwarchod Plant a Gofal Dydd).Yn ychwanegol mae'n dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar y diwrnod hwn. Mae'n dod ag adran 5(b) i rym a'r rhan honno o adran 79 sy'n mewnosod adran 79B(2) newydd yn Neddf Plant 1989 (ac effaith y darpariaethau hyn yw datgan mai'r Cynulliad fydd yr awdurdod cofrestru gofal cymdeithasol dros Gymru). Bydd hyn yn hwyluso gweithgareddau sy'n paratoi ar gyfer dyfodiad i rym y darpariaethau hynny yn y Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gofrestru'r gofal cymdeithasol sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru. Mae'n dod ag adran 112 i rym hefyd (sy'n diwygio Deddf Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol 1970 i wneud y pwerau sy'n cael eu rhoi ganddi yn arferadwy mewn perthynas â swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983). Bydd hyn yn caniatáu i'r Cynulliad roi canllawiau a chyfarwyddiadau i awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas â'u p er i godi taliadau am y gwasanaethau lles y maent yn eu darparu.(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau'r Ddeddf y mae cofnod wedi'i wneud mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru. Daethpwyd â'r darpariaethau hynny ag "(a)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93), a'r rhai â "(b)" ar eu hôl gan O.S. 2001/139 (Cy.5)(C.7).
Mae darpariaethau'r Ddeddf y mae cofnod wedi'i wneud ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan yr offerynnau canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r p er yn arferadwy gan "the appropriate Minister". Diffinnir "the appropriate Minister" yn adran 121 (1) i olygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru; mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back
ISBN 0 11090305 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2001 | Prepared 8 August 2001 |